Nawr bod y Nadolig ar y trothwy, dyma rannu ambell awgrym allai helpu i hwyluso’r ŵyl!
Byddwch yn greadigol
Digidol amdani! Gallech chi wneud defnydd da o’r sgiliau technoleg ddigidol mae pawb ohonom ni wedi’u dysgu eleni trwy greu eich cardiau Nadolig digidol eich hun, ac arbed costau postio trwy eu hanfon at deulu a ffrindiau ar e-bost. Beth am ofyn i’r plant helpu hefyd?
Prynu anrhegion i’r plant yn unig! – Beth am brynu i’r plant yn y teulu yn unig, ac nid yr oedolion?
Santa Dirgel i’r Teulu – Mae pawb yn dwlu ar Santa dirgel! Mae pob aelod o’r teulu neu ffrind yn prynu i un person – mae anrheg i bawb, ond dim ond un anrheg i bawb ei phrynu.
Os ydych chi’n rhan o gwpl, beth am roi anrheg mae arnyn nhw ei angen i’ch partner? Gallai fod yn rhywbeth bydden nhw’n gorfod ei brynu drostynt eu hunain fel arall.
Rhowch gynnig ar y rheol Pedair Anrheg eleni: Rhywbeth rydych chi eisiau, rhywbeth rydych chi angen, rhywbeth i’w wisgo, a rhywbeth i’w ddarllen.
Gall “gwisgo” olygu pâr o fenig, pyjamas neu sanau, a gallwch chi brynu llyfrau’n rhad hefyd.
Prynwch trwy ailgylchu, o safleoedd fel eBay, Facebook Marketplace, Gumtree. Fe gewch hyd i eitemau newydd sbon mae pobl wedi’u prynu neu eu derbyn yn anrhegion, ond sydd heb eu hagor na’u defnyddio, am ffracsiwn o’r pris llawn. Ac mae’n dda i’r amgylchedd hefyd.


Crewch addurniadau. Adfywiwch y traddodiad o greu addurniadau fel cadwyni papur ac addurniadau ffenestri. Gallwch chi ddefnyddio darnau bach o bapur lapio neu brynu papur celf rhad i blant.
Os ydych chi’n fwy mentrus… beth am greu addurniadau o glai modelu sy’n sychu yn yr aer neu addurniadau toes? Y cyfan bydd arnoch chi ei angen yw’r clai modelu neu’r toes a thorwyr siapau Nadoligaidd (neu gallech chi eu gwneud â llaw). Ewch ati i rolio’r clai, ac yna torri’r siâp Nadoligaidd allan, e.e. coeden Nadolig, seren ac ati. Gwthiwch dwll bach yn y rhan uchaf i roi llinyn/edau ynddo. Gadewch iddo sychu (neu pobwch e os ydych chi’n defnyddio toes), ei beintio a’i roi i hongian… Mae’r rhain yn rhad dros ben, ond yn edrych yn hyfryd, ac mae’n llawer o hwyl i’r plant ymuno.
Dewch o hyd i ostyngiadau mawr mewn allfeydd ar-lein
Mae gan lawer o siopau’r stryd fawr a siopau moethus allfeydd ar-lein. Fel arfer, fe gewch hyd iddyn nhw ar eBay neu trwy wefannau arbennig.
Cheap Parcel Delivery
Dosbarthu Parseli’n Rhad
Defnyddiwch y we i arbed costau dosbarthu!
Os yw’n pwyso mwy nag 1kg, mae modd arbed peth arian trwy ddefnyddio dosbarthwr pris gostyngol ar y we yn lle’r Post Brenhinol – ac mae hyd yn oed yn bosib trefnu i gasglu’r nwyddau o’ch cartref.
Gwefannau arian yn ôl
Mae gwefannau arian yn ôl yn eich talu chi pan ewch chi drwyddyn nhw i wario gyda manwerthwyr neu ddarparwyr. Gallwch chi wneud £100 oedd mewn blwyddyn, o’u defnyddio’n iawn.
Peidiwch â phrynu gormod o fwyd


Edrychwch ar Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff i gael cyngor ar ddognau bwyd perffaith, fydd yn gwastraffu llai, yn eich helpu i arbed arian, ond hefyd yn llesol i’r amgylchedd.
Gwnewch yn fawr o’ch Pwyntiau Gwobrwyo
Defnyddiwch wobrwyon archfarchnad, fel Nectar trwy Sainsbury’s neu Morrison’s More, neu hyd yn oed Clubcard Tesco i gronni pwyntiau ar hyd y flwyddyn, ac yna defnyddio’r pwyntiau i helpu i dalu am ginio Nadolig, neu hyd yn oed am anrhegion.
Cadwch lygad ar agor am ddiwrnodau pwyntiau dwbl i gael hwb ychwanegol!
Defnyddiwch ganllaw ‘Which’ i weld pa gardiau teyrngarwch yw’r gorau, a’r gwaethaf
Paratoi ar gyfer y flwyddyn nesar
Un o’r ffyrdd rhataf o brynu anrhegion, cardiau a phapur lapio yw anelu am ostyngiadau Gŵyl San Steffan yn gynnar, a pharatoi stoc o bethau mewn da bryd ar gyfer y Nadolig nesaf.